Lleoliad:
Ystafell Bwyllgora 4 - Tŷ Hywel
Dyddiad: Dydd Mercher, 11 Hydref 2017
Amser:
09.02 -
12.18
Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV yn:
http://senedd.tv/cy/4423
------
Categori |
Enwau |
Aelodau’r Cynulliad: |
Simon Thomas AC (Cadeirydd) Neil Hamilton AC Mike Hedges AC Eluned Morgan AC David Rees AC Nick Ramsay AC |
Tystion: |
Nick Bennett, Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru David Meaden, Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru Chris Vinestock, Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru Dr Edward Jones, Prifysgol Bangor Dr Helen Rogers, Prifysgol Bangor Andrew Jeffreys, Dirprwy Gyfarwyddwr, Buddsoddi Cyfalaf Strategol, Llywodraeth Cymru Dyfed Alsop, Awdurdod Cyllid Cymru Julian Revell, Llywodraeth Cymru |
Staff y Pwyllgor: |
Bethan Davies (Clerc) Leanne Hatcher (Ail Glerc) Georgina Owen (Dirprwy Glerc) Joanne McCarthy (Ymchwilydd) Christian Tipples (Ymchwilydd) Ben Harris (Cynghorydd Cyfreithiol) |
1.1 Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i’r cyfarfod.
1.2 Derbyniwyd ymddiheuriadau gan Steffan Lewis AC.
2.1 Nodwyd y papur.
3.1 Cymerodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Nick Bennett, Ombwdsman Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru; Chris Vinestock, Prif Swyddog Gweithredu; a David Meaden, Cyfrifydd Ariannol ar Amcangyfrifon Ombwdsman Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru 2018-19.
3.2 Cytunodd yr Ombwdsmon i ddarparu rhagor o fanylion ar gyfran y cwynion a gadarnhawyd ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg.
4.1 Derbyniwyd y cynnig.
5.1 Ystyriodd y Pwyllgor y dystiolaeth a ddaeth i law.
6.1 Cymerodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Dr Edward Jones a Dr Helen Rogers o Brifysgol Bangor ar gyllideb ddrafft Llywodraeth Cymru 2018-19.
7.1 Cymerodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Andrew Jeffreys, Trysorlys Cymru; Dyfed Alsop, Prif Weithredwr, Awdurdod Refeniw Cymru; a Julian Revell, Pennaeth Dadansoddi Cyllidol, Trysorlys Cymru ar gyllideb ddrafft Llywodraeth Cymru 2018-19.
7.2 Gofynnodd y Pwyllgor am y wybodaeth ddiweddaraf am yr ymrwymiad a wnaed yn ystod Cyfnod 2 y Bil Treth Trafodiadau Tir a Gwrthweithio Osgoi Trethi Datganoledig (Cymru), i lunio map diffiniol y Gofrestrfa Tir o ffin Cymru.
8.1 Ystyriodd y Pwyllgor y dystiolaeth a ddaeth i law.
9.1 Bu'r Pwyllgor yn ystyried y dystiolaeth a dderbyniwyd yn ystod sesiwn yr wythnos diwethaf ar gyllideb ddrafft Comisiwn Cynulliad Cenedlaethol Cymru 2018-19.